Y swydd
Mae llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi rheolwr technoleg ddigidol newydd i weithio ar draws dau safle’r ysgol.
Cynigir pecyn datblygiad cynhwysfawr ac fe anogir unigolion uchelgeisiol sydd yn awyddus i ddatblygu yn eu gyrfa i ymgeisio ar gyfer y swydd hon mewn ysgol sydd yn parhau i dyfu.
Gwahoddir ymgeiswyr a chanddynt NVQ Lefel 4 neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol i ddechrau cyn gynted ag sy’n bosib.
Dewisa niferoedd uchel iawn o ddisgyblion i ddilyn cyrsiau’r adran technoleg ddigidol ar gyfer TGAU ac yn y chweched dosbarth a bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda phennaeth yr adran technoleg ddigidol yn ogystal â’r uwch dȋm arwain. Gweler swydd ddisgrifiad a manyleb y person ar gyfer rhagor o wybodaeth.
Cyflog ar gyfer y swydd uchod: Gradd 8
Petai ymgeisydd yn awyddus i dderbyn gwybodaeth ychwanegol am yr ysgol, neu’r swydd, mae croeso i chi gysylltu â’r Prifathro, Mr Matthew Webb.
Yr ysgol
Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn ysgol lwyddiannus a phoblogaidd dros ben. Ymatebodd yr ysgol i’r twf yn y galw am addysg Gymraeg yn yr ardal trwy agor ail safle yng Nghaerffili yn 2013, safle sydd bellach yn cynnwys disgyblion o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 ac sy’n parhau i dyfu. Lleolir y chweched dosbarth a ffrwd arall o ddisgyblion CA3 a CA4 ar safle Gellihaf, ger pentref Fleur-de-lys yn y Coed Duon.
Noda adroddiad Estyn:
“Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn gymuned ag ethos cynhwysol, cyfeillgar, Cymreig. Mae ynddi ymdeimlad hynod gryf o berthyn, cydweithio a chyd-ddyheu. Ceir ysbryd o fwrlwm a brwdfrydedd sy’n cael ei goleddu gan yr holl staff a disgyblion. [2016]
Nifer disgyblion ym mis Medi 2020: 1800
Nifer yn y Chweched Dosbarth: 200.
Dyddiad cau: Dydd Gwener (03/09/21) (Canol dydd)
Gofynnwn i ymgeiswyr e-bostio’r ffurflen gais a chysylltu â’r ysgol ar i gadarnhau eu bod wedi ei derbyn.
https://www.eteach.com/job/rheolwr-tg-it-manager-1169546
200SCH Information Technology Manager Cwm Rhymni CYM.pdf